Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 24 Mai 2022
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Dadl: Y Jiwbilî Blatinwm
(60 munud)
NDM8006 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn llongyfarch Ei Mawrhydi y Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Blatinwm ac yn talu teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 70 mlynedd ddiwethaf.
Cefnogwyr:
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu
(30 munud)
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg yn y gweithlu addysg
(30 munud)
6 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru
(45 munud)
7 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 25 Mai 2022